Bilingual Press Officer / Swyddog y Wasg (Ddwyieithog)

Summary

The Marketing team is responsible for building and maintaining sustainable audiences and casual visitors for a wide range of activities and a broad range of customers and the development of our reputation in the public domain.

More Details

Teitl y Rôl: Swyddog y Wasg (Ddwyieithog)

Cyflog: £27,623 – £30,610 y flwyddyn

Oriau Gwaith: 35 awr yr wythnos. Oherwydd natur y rôl hon, bydd gofyn i chi weithio’n hyblyg ar gyfer nosweithiau i’r wasg a digwyddiadau cysylltiedig eraill.

Math o Gytundeb: Parhaol

 

Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.

 

Amdanom ni/Ein Hadran:

Mae’r tîm Marchnata yn gyfrifol am feithrin a chynnal nifer gynaliadwy o gynulleidfaoedd ac ymwelwyr achlysurol ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau a chwsmeriaid ynghyd â datblygu ein henw da yn y parth cyhoeddus. I wneud hyn, rydym yn creu ymgyrchoedd aml-sianel ac yn cynhyrchu deunydd marchnata i gyfleu ein cynigion cynhyrchu incwm yn ogystal â’n gweledigaeth elusennol ac artistig. Mae gennym hefyd ymrwymiad i sicrhau dull dychmygus o werthfawrogi a datblygu diwylliant a hunaniaeth Cymru ym mhob agwedd ar ein gweithgareddau.

 

Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau

 

Mae Swyddog y Wasg yn gyfrifol am gyflwyno gwybodaeth ar gyfer y wasg a’r cyfryngau o ddydd i ddydd i hyrwyddo ein rhaglen o berfformiadau yn Theatr Donald Gordon. Mae’r rôl hon yn canolbwyntio ar weithrediad gweithredol yn hytrach na chynllunio strategol, gan sicrhau sylw cyson yn y cyfryngau a hybu canfyddiad y cyhoedd o CMC.

 

Bydd deiliad y swydd yn adrodd i’r Uwch Reolwr Marchnata ac yn rhan o dîm bach sy’n canolbwyntio ar ddenu cynulleidfaoedd i’n rhaglen. Byddwch yn gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau, yn rheoli ceisiadau gan y wasg gyda phroffesiynoldeb a hyder ac yn chwarae rhan hanfodol wrth drefnu nosweithiau i’r wasg.

 

Gall eich rôl fod yn amodol ar wiriad DBS.

 

Gofynion Allweddol

Rydym yn chwilio am unigolion deinamig, dwyieithog (Cymraeg a Saesneg), uchel eu cymhelliant a huawdl sy’n gallu gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, artistiaid a rhanddeiliaid ac sydd â’r gallu i gydbwyso syniadau creadigol ag effeithlonrwydd gorau posibl.

 

Fel eiriolwr gweladwy ar ran CMC, bydd gennych agwedd gyfeillgar a phroffesiynol wrth gynrychioli’r sefydliad mewn digwyddiadau, yn y cyfryngau ac wrth ddelio â rhanddeiliaid allweddol. Byddwch yn gallu gweithio ar y cyd, gydag agwedd bositif a lefel uchel o hunangymhelliant, a hefyd gweithio ar eich liwt eich hun, datrys problemau mewn modd creadigol a meddwl yn ochrol.

 

Bydd y rôl hon yn gofyn i chi weithio’n hyblyg i gwmpasu nosweithiau ar gyfer y wasg a digwyddiadau cysylltiedig eraill ac mae angen safon uchel o gyfathrebu a sylw i fanylder yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd angen sgiliau digidol a rhwydweithio cryf arnoch, a bydd gofyn i chi fod yn gyfarwydd ag offer monitro cyfryngau. Dylai fod gennych wybodaeth ymarferol dda am gysylltiadau â’r cyfryngau a chyflwyno ymgyrchoedd i’r wasg.

 

Beth Sydd Ynddo i Chi?

 

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser.
  • Cynllun pensiwn sy’n uwch na’r statudol
  • Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
  • Aelodaeth Cymorth Feddygol sy’n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy’n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
  • Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
  • CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
  • NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio
  • Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi oriau hyblyg i gynorthwyo gydag amseroedd cychwyn a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol (ac anghenion gweithredol).

 

 

Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

 

Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o’r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy’n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.

 


 

Role Title: Bilingual Press Officer

Salary: £27,623 – £30,610 per annum

Hours of Work: 35 hours per week (Due to the nature of this role, you will be required to work flexibly to cover press nights and other related events)

Type of Contract: Permanent

 

Wales Millennium Centre is a home for the arts in Wales, and a cauldron of creativity for the nation. We fire imaginations by curating world-class, critically acclaimed touring productions, from musical theatre and comedy to dance, cabaret and an international festival. We kindle emerging talents with fresh, provocative, and popular pieces of our own, rooted in Welsh culture. And we ignite a passion for the arts in young people with life-changing learning experiences and chances to shine in the spotlight.

About WMC/Our Department:

The Marketing team is responsible for building and maintaining sustainable audiences and casual visitors for a wide range of activities and a broad range of customers and the development of our reputation in the public domain. To do this, we create multi-channel campaigns and produce marketing collateral to communicate our income-generating propositions as well as charitable and artistic vision. We also have a commitment to ensuring an imaginative approach is taken to valuing and developing Welsh culture and identity in all aspects of our activities.

About the Role and Responsibilities:

The Press Officer is responsible for delivering day-to-day press and media activity to promote the programme of performances in the Donald Gordon Theatre. This role focuses on operational execution rather than strategic planning, ensuring consistent media coverage and positive public perception of the organisation.

The post holder will report into the Senior Marketing Manager and be part of a small team focussing on attracting audiences to our programme. You’ll be the first point of contact for media enquiries; managing press requests with professionalism and confidence and playing a vital part in organising press nights.

Your role may be subject to a DBS check

 

Key Requirements:

We are looking for dynamic, bilingual (Welsh and English), highly motivated, articulate individuals able to work with a range of partners, artists and stakeholders with the ability to balance creative ideas with optimal efficiency.

As a visible advocate for Wales Millennium Centre, you’ll have a friendly, professional manner when representing the organisation at events, in the media and when dealing with key stakeholders. You’ll be able to work collaboratively, with a positive attitude, a high level of self-motivation and the ability to work on your own initiative; a creative problem-solver and a lateral thinker.

 

This role will require you to work flexibly to cover press nights and other related events and requires a high standard of communication and attention to detail in Welsh and English. You will need strong digital and networking skills, familiarity with media monitoring tools and a good working knowledge of media relations and press campaign delivery.

What’s in it for you?

  • 25 days of annual leave plus bank holidays, based on a 35-hour week, pro rata for part time.
  • Enhanced pension scheme.
  • Enhanced maternity, paternity, adoption, and shared parental leave (subject to length of service)
  • Health cash plan: receive money towards dental and optical care, complimentary treatments such as chiropractic, osteopathic and acupuncture treatments.
  • Medical Assistance membership which includes remote access to GP, counselling, and physiotherapy sessions.
  • Employee assistance programmes which include access to support services for legal, financial, and family concerns.
  • Life assurance of 4x annual salary.
  • Opportunity to apply for tickets to productions
  • CLWB – Our employee social group
  • NEWID – our Equality, Diversity, and Inclusion networking group who meet monthly to discuss new ideas and training opportunities to improve all aspects of employment at WMC.
  • Free access to learn Welsh online
  • £5 all-day parking available on working and non-working days.
  • 35-hour working week including a flexitime policy to assist with varying start and finish times around personal commitments (and operational needs).

 

At Wales Millennium Centre, our commitment to diversity and inclusion goes beyond words; it is a fundamental aspect that guides our actions. Adhering to the principles outlined in Section 158 of the Equality Act 2010, we actively embrace positive action in our recruitment and selection processes. Recognising the underrepresentation of specific groups, particularly individuals with disabilities, and those from Black, Asian, and ethnically diverse backgrounds, within our workforce, we have implemented proactive measures to address this disparity.

Through our positive action approach, applicants of our advertised roles from these underrepresented groups, meeting the minimum criteria detailed in the role profile, will be shortlisted for interview selection. Our commitment extends beyond meeting legal obligations; we aspire to cultivate a workplace that authentically embraces the rich diversity of our global society.

Organisation

Wales Millennium Centre

Salary (Exact)

££27,623 – £30,610 per annum

Closing Date

10/03/2026

Contract Type

Hybrid, Permanent, Full Time

Job Type

Marketing & Digital

Join our network of theatre professionals