Summary
More Details
Role Title: Casual Stage Technician
Salary: £13. 45 Per Hour
WMC is a home for the arts in Wales, and a cauldron of creativity for the nation. We fire imaginations by curating world-class, critically acclaimed touring productions, from musical theatre and comedy to dance, cabaret and an international festival. We kindle emerging talents with fresh, provocative, and popular pieces of our own, rooted in Welsh culture. And we ignite a passion for the arts in young people with life-changing learning experiences and chances to shine in the spotlight.
About WMC/Our Department:
Wales Millennium Centre plays host to a wide variety of number one touring productions, from musicals, dance and opera to comedy, as well as our own internal productions, international productions, events and conferences. You will be an integral part of the team to get these productions up and running.
This role covers Stage crew, Technician, and Dressing roles or possibly a combination of these.
As one of the casual technicians, your main role will be servicing the productions in all of the performance spaces within the Centre, working on events located around the building as well as outside WMC’s premises, it’s also possible this may include taking part in occasional tours.
Your role may be subject to a DBS check
Key Requirements:
- A positive and constructive attitude with a friendly and flexible approach to clients and visiting companies
- Good interpersonal and team-working skills and the ability to work with other departments within WMC, to ensure the success of all productions and events
- Experience of working in technical theatre
- Experience of making sets
- Practical experience of rigging lights and sound
- Ability to work unsociable hours, including over-night, weekends and Bank Holidays
- Ability to adhere to H&S policies connected with working backstage, including working at height, manual handling and working with electricity, as well as wearing the appropriate PPE where necessary.
- The ability to speak Welsh is desirable but not essential
What’s in it for you?
- Real living wage employer
- Now pension
- Flexibility of working hours – pick the shifts/hours that work around your personal life and commitments
- Access to the Theatre Helpline, which includes support for: mental health and wellbeing, injury, debt, and financial issues etc
- Free access to learn Welsh online
- Mental health allies and support
- 20% discount from WMC restaurants and cafes
- £5 all-day parking available on working and non-working days.
At Wales Millennium Centre, our commitment to diversity and inclusion goes beyond words; it is a fundamental aspect that guides our actions. Adhering to the principles outlined in Section 158 of the Equality Act 2010, we actively embrace positive action in our recruitment and selection processes. Recognising the underrepresentation of specific groups, particularly individuals with disabilities, and those from Black, Asian, and ethnically diverse backgrounds, within our workforce, we have implemented proactive measures to address this disparity.
Through our positive action approach, applicants of our advertised roles from these underrepresented groups, meeting the minimum criteria detailed in the role profile, will be shortlisted for interview selection. Our commitment extends beyond meeting legal obligations; we aspire to cultivate a workplace that authentically embraces the rich diversity of our global society.
Teitl y Rôl: Technegydd Llwyfan Achysurol
Cyflog: £13.45 yr Awr
Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Amdanom Ni/Ein Hadran
Mae CMC yn gartref i amrywiaeth eang o gynyrchiadau teithiol o’r radd flaenaf, o sioeau cerdd, dawns, ac opera i gomedi, yn ogystal â’n cynyrchiadau mewnol ein hunain, cynyrchiadau rhyngwladol, digwyddiadau a chynadleddau. Byddwch yn rhan annatod o’r tîm sy’n gyfrifol am sicrhau bod y cynyrchiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith.
Mae’r rôl hon yn cynnwys rolau Criw Llwyfan, Technegydd, a Gwisgoedd – neu o bosibl cyfuniad o’r rhain.
Fel un o’r technegwyr achlysurol, eich prif rôl fydd gwasanaethu’r cynyrchiadau ym mhob un o’r mannau perfformio o fewn CMC, gan weithio ar ddigwyddiadau wedi’u lleoli o gwmpas yr adeilad yn ogystal â thu allan i adeilad y Ganolfan. Mae’n bosibl y gall hyn gynnwys cymryd rhan mewn teithiau achlysurol. Gall eich rôl fod yn amodol ar wiriad DBS.
Gofynion Allweddol
· Agwedd gadarnhaol ac adeiladol gydag ymagwedd gyfeillgar a hyblyg at gleientiaid a chwmnïau sy’n ymweld· Sgiliau rhyngbersonol da a’r gallu i weithio mewn tîm a gydag adrannau eraill o fewn CMC er mwyn sicrhau llwyddiant pob cynhyrchiad a digwyddiad· Profiad o weithio mewn theatr dechnegol· Profiad o adeiladu setiau· Profiad ymarferol o rigio goleuadau a sain· Y gallu i weithio oriau anghymdeithasol, gan gynnwys dros nos, penwythnosau a Gwyliau Banc· Y gallu i gydymffurfio â pholisïau Iechyd a Diogelwch sy’n gysylltiedig â gweithio tu ôl y llwyfan, gan gynnwys gweithio ar uchder, trin â llaw a gweithio gyda thrydan, yn ogystal â gwisgo’r cyfarpar diogelu personol priodol lle bo angen· Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Beth Sydd Ynddo i Chi?
- Cyflogwr cyflog byw go iawn· Hawl i bensiwn Now
- Hyblygrwydd o ran oriau gwaith – dewiswch y shifftiau/oriau gwaith sy’n addas i’ch bywyd personol a’ch ymrwymiadau
- Mynediad i Linell Gymorth y Theatr, sy’n cynnwys cymorth ar gyfer lles ac iechyd meddwl, anafiadau, dyled, materion ariannol ac ati
- Gwersi Cymraeg am ddim ar-lein·
- Cynghreiriaid a chefnogaeth iechyd meddwl·
- Gostyngiad o 20% ym mwytai a chaffis CMC
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.
Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o’r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy’n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.
Organisation





