Uwch Reolwr/wraig Marchnata a Chyfathrebu – Rhaglenni Creadigol / Senior Marketing and Communications Manager – Creative Programmes

Summary

We’re looking for a Senior Marketing and Communications Manager to lead marketing and engagement for our Creative Programmes – from WMC productions to Create XR, cabaret to lantern parades. This is your chance to shape campaigns that amplify our vision and position WMC as a leader in creative innovation.

More Details

Teitl y Rôl: Uwch Reolwr/wraig Marchnata a Chyfathrebu – Rhaglenni Creadigol

 

Cyflog: £36,634 – £42,734

 

Oriau Gwaith: 35 awr yr wythnos

 

Math o Gytundeb: Parhaol

 

Dyddiad Cau:

 

Dyddiad Cyfweld:

Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl gyfan. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.

 

Amdanom ni/Ein Hadran:

 

Fel rhan o’n tîm Celfyddydau a Chreadigol bydd cyfle i chi gyfrannu at ein prosiectau ysbrydoledig. O’n stiwdios arloesol dan arweiniad pobl ifanc i’n gwaith gyda thechnoleg ymdrochol, ein nod yw rhoi cyfleoedd i artistiaid, pobl ifanc a chymunedau adrodd straeon rhyfeddol mewn ffyrdd rhyfeddol.

 

Rydym yn dymuno i bawb wybod am y gwaith sy’n digwydd y tu hwnt i’r ffasâd gwydr a llechi. Mae hon yn rôl newydd o fewn y tîm, a fydd yn chwarae rhan allweddol yn ein dyfodol. Mae’n ymwneud â chynyddu ymgysylltiad a chyrhaeddiad fel y gall mwy o bobl fod yn rhan o’n stori.

 

Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau

 

Rydym yn chwilio am Uwch Reolwr/wraig Marchnata a Chyfathrebu i arwain marchnata ac ymgysylltu ar gyfer ein Rhaglenni Creadigol – o gynyrchiadau CMC i Creu XR, Cabaret i orymdeithiau llusernau. Dyma’ch cyfle i lunio ymgyrchoedd sy’n ehangu ein gweledigaeth ac yn gosod CMC fel arweinydd mewn arloesedd creadigol.  Fel rhan o’n tîm byddwch yn:

  • Datblygu a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata integredig ar gyfer rhaglenni creadigol ar draws llwyfannau byw, digidol a chymunedol.
  • Gyrru strategaethau datblygu cynulleidfaoedd i gynyddu cyrhaeddiad, refeniw ac ymgysylltiad.
  • Comisiynu a rheoli adnoddau llawrydd ac asiantaethau ar gyfer ymgyrchoedd effeithiol.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â:

  • Phrofiad sylweddol o greu ymgyrchoedd marchnata bywiog a digidol.
  • Gallu profedig i ddatblygu strategaethau marchnata integredig.
  • Arbenigedd mewn sianeli digidol, cyfryngau cymdeithasol, creu cynnwys a rheoli asiantaethau a chrewyr cynnwys.

 

Gall eich rôl fod yn amodol ar wiriad DBS.

 

Gofynion Allweddol

Rydym yn chwilio am rywun sydd â:

  • Phrofiad sylweddol o greu ymgyrchoedd effeithiol sy’n rhoi cynulleidfaoedd wrth wraidd adrodd straeon.
  • Gallu profedig i ddatblygu strategaethau marchnata integredig ar draws ystod o weithgareddau.
  • Arbenigedd mewn rheoli asiantaethau a chreu cynnwys.

Beth Sydd Ynddo i Chi?

 

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser.
  • Cynllun pensiwn sy’n uwch na’r statudol
  • Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
  • Aelodaeth Cymorth Feddygol sy’n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy’n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
  • Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
  • CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
  • NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio
  • Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi oriau hyblyg i gynorthwyo gydag amseroedd cychwyn a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol (ac anghenion gweithredo)l.

 

 

Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

 

Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o’r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy’n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.

 


 

Role Title: Senior Marketing and Communications Manager – Creative Programmes

Salary: £36,634 – £42,734

Hours of Work: 35 per week

Type of Contract: Permanent

WMC is a home for the arts in Wales, and a cauldron of creativity for the nation. We fire imaginations by curating world-class, critically acclaimed touring productions, from musical theatre and comedy to dance, cabaret and an international festival. We kindle emerging talents with fresh, provocative, and popular pieces of our own, rooted in Welsh culture. And we ignite a passion for the arts in young people with life-changing learning experiences and chances to shine in the spotlight.

About WMC/Our Department:

 

Joining the Arts and Creative team allows you to contribute to inspiring projects. From our pioneering youth-led studios to our work with immersive technology, we aim to provide artists, young individuals, and communities with opportunities to tell extraordinary stories in extraordinary ways.

We want the world to know about the work that happens beyond the glass and slate façade. This is a new role within the team, that will play a pivotal role in our future. It’s about growing engagement and reach so that more people can be part of our story.

About the Role and Responsibilities:

We’re looking for a Senior Marketing and Communications Manager to lead marketing and engagement for our Creative Programmes – from WMC productions to Create XR, cabaret to lantern parades. This is your chance to shape campaigns that amplify our vision and position WMC as a leader in creative innovation.

As part of our team you will:

  • Develop and deliver integrated marketing campaigns for creative programmes across live, digital, and community platforms.
  • Drive audience development strategies to grow reach, revenue, and engagement.
  • Commission and manage freelance and agency resources for impactful campaigns.

We’re looking for someone with:

  • Significant experience creating vibrant, digitally led marketing campaigns.
  • Proven ability to develop integrated marketing strategies.
  • Expertise in digital channels, social media, and content creation, managing agencies and content creators

Your role may be subject to a DBS check

Key Requirements:

 

We’re looking for someone with:

  • Significant experience creating impactful campaigns that put audiences at the heart of storytelling.
  • Proven ability to develop integrated marketing strategies across a range of activities.
  • Expertise in managing agencies and content creation

What’s in it for you?

  • 25 days of annual leave plus bank holiday, based on a 35-hour week, pro rata for part time.
  • Enhanced pension scheme
  • Enhanced maternity, paternity, adoption, and shared parental leave (subject to length of service)
  • Health cash plan: receive money towards dental and optical care, complimentary treatments such as chiropractic, osteopathic and acupuncture treatments.
  • Medical Assistance membership which includes remote access to GP, counselling, and physiotherapy sessions
  • Employee assistance programmes which include access to support services for legal, financial, and family concerns
  • Life assurance of 4x annual salary.
  • Opportunity to apply for tickets to productions
  • CLWB – Our employee social group
  • NEWID – our Equality, Diversity, and Inclusion networking group who meet monthly to discuss new ideas and training opportunities to improve all aspects of employment at WMC.
  • Free access to learn Welsh online
  • £5 all-day parking available on working and non-working days.
  • 35-hour working week including a flexitime policy to assist with varying start and finish times around personal commitments (and operational needs)

At Wales Millennium Centre, our commitment to diversity and inclusion goes beyond words; it is a fundamental aspect that guides our actions. Adhering to the principles outlined in Section 158 of the Equality Act 2010, we actively embrace positive action in our recruitment and selection processes. Recognising the underrepresentation of specific groups, particularly individuals with disabilities, and those from Black, Asian, and ethnically diverse backgrounds, within our workforce, we have implemented proactive measures to address this disparity.

Through our positive action approach, applicants of our advertised roles from these underrepresented groups, meeting the minimum criteria detailed in the role profile, will be shortlisted for interview selection. Our commitment extends beyond meeting legal obligations; we aspire to cultivate a workplace that authentically embraces the rich diversity of our global society.

Organisation

Wales Millennium Centre

Salary (Exact)

£36,634 – 42,734 per annum

Closing Date

09/02/2026

Contract Type

Permanent, Full Time

Job Type

Marketing & Digital

Join our network of theatre professionals