Summary
More Details
We are Wales Millennium Centre – Fire for the Imagination
Role Title: Head of Commercial Partnerships
Salary: £55,239 – £61,212 per annum
Hours of Work:35 Hours Per Week
Type of Contract: Permanent
Closing Date: 10 July 2025
WMC is a home for the arts in Wales, and a cauldron of creativity for the nation. We fire imaginations by curating world-class, critically acclaimed touring productions, from musical theatre and comedy to dance, cabaret and an international festival. We kindle emerging talents with fresh, provocative, and popular pieces of our own, rooted in Welsh culture. And we ignite a passion for the arts in young people with life-changing learning experiences and chances to shine in the spotlight.
About WMC/Our Department:
The Head of Commercial is a new role within Wales Millennium Centre reporting into the Chief Commercial Officer.You will be responsible for driving revenue growth, developing strategic partnerships, and aligning commercial strategies with overall company goals.This role is pivotal for the organization’s growth and sustainability, directly impacting financial performance and market positioning.
You will lead the ongoing commercial transformation across the wider organisation, challenging the status quo, building effective relationships both internally and externally to achieve the desired change. You will collaborate effectively with the commercial departments of Fundraising, Customer Operations and Digital Services to deliver the commercial strategy as well as the wider organisation.
About the Role and Responsibilities:
- You will identify new business opportunities, partnerships and sponsorships to maximize revenue streams and enhance market positioning. Building and maintaining relationships with external partners, suppliers and sponsors for current and potential sites.
- Working with the Chief Commercial Officer, you will embed the new commercial operating model, building in milestones by which to measure success and drive further development.
- You will oversee budgeting, financial planning, and performance analysis to ensure sustainable profitability and effective resource allocation. Measuring the success and impact of commercial initiatives.Delivering measurable Return on Investment for partners to encourage renewals and growth.
- You will develop and implement strategies to enhance income through commercial activities such as selling of services and corporate partnerships.
- You will research and conduct market analysis to identify new business opportunities, evaluating the feasibility of new projects and assessing their impact on WMC strategic vision.
Your role may be subject to a DBS check.
Key Requirements:
- Candidates will have a proven track record in a commercial leadership role, with experience in driving revenue growth and managing commercial partnerships.
- You will have effective negotiation skills.
- You will have demonstrable experience of developing and implementing effective commercial strategies in a customer facing environment
- You will have strong experience of developing new and innovative ideas for income diversification.
- You will possess sound financial acumen and effective budget management experience.
What’s in it for you?
- 25 days of annual leave plus bank holiday, based on a 35-hour week, pro rata for part time.
- Enhanced pension scheme
- Enhanced maternity, paternity, adoption, and shared parental leave (subject to length of service)
- Health cash plan: receive money towards dental and optical care, complimentary treatments such as chiropractic, osteopathic and acupuncture treatments.
- Medical Assistance membership which includes remote access to GP, counselling, and physiotherapy sessions
- Employee assistance programmes which include access to support services for legal, financial, and family concerns
- Life assurance of 4x annual salary.
- Opportunity to apply for tickets to productions
- CLWB – Our employee social group
- NEWID – our Equality, Diversity, and Inclusion networking group who meet monthly to discuss new ideas and training opportunities to improve all aspects of employment at WMC.
- Free access to learn Welsh online
- £5 all-day parking available on working and non-working days.
- 35-hour working week including a flexitime policy to assist with varying start and finish times around personal commitments (and operational needs)
At Wales Millennium Centre, our commitment to diversity and inclusion goes beyond words; it is a fundamental aspect that guides our actions. Adhering to the principles outlined in Section 158 of the Equality Act 2010, we actively embrace positive action in our recruitment and selection processes. Recognising the underrepresentation of specific groups, particularly individuals with disabilities, and those from Black, Asian, and ethnically diverse backgrounds, within our workforce, we have implemented proactive measures to address this disparity.
Through our positive action approach, applicants of our advertised roles from these underrepresented groups, meeting the minimum criteria detailed in the role profile, will be shortlisted for interview selection. Our commitment extends beyond meeting legal obligations; we aspire to cultivate a workplace that authentically embraces the rich diversity of our global society.
Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg
Teitl y Rôl: Pennaeth Partneriaethau Masnachol
Cyflog: £55,239 – £61,212 y flwyddyn
Oriau Gwaith:35 Awr yr Wythnos
Math o Gytundeb:Parhaol
Dyddiad Cau: 10 Gorffennaf 2025
Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Amdanom ni/Ein Hadran:
Mae’r Pennaeth Masnachol yn rôl newydd o fewn CMC sy’n adrodd i’r Prif Swyddog Masnachol. Byddwch yn gyfrifol am yrru twf refeniw, datblygu partneriaethau strategol, ac alinio strategaethau masnachol â nodau cyffredinol y sefydliad. Mae’r rôl hon yn allweddol ar gyfer twf a chynaliadwyedd y sefydliad, gan effeithio’n uniongyrchol ar ein perfformiad ariannol a’n safle yn y farchnad.
Byddwch yn arwain y trawsnewidiad masnachol parhaus ar draws y sefydliad ehangach, gan herio’r status quo, a meithrin perthnasoedd effeithiol yn fewnol ac yn allanol i gyflawni’r newid a ddymunir. Byddwch yn cydweithio’n effeithiol â’r adrannau masnachol, sef Codi Arian, Gweithrediadau Cwsmeriaid a Gwasanaethau Digidol, yn ogystal â’r sefydliad ehangach, i gyflawni’r strategaeth fasnachol.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:
- Byddwch yn adnabod cyfleoedd busnes, partneriaethau a nawdd newydd i wneud y mwyaf o ffrydiau refeniw a hybu ein safle yn y farchnad. Byddwch yn adeiladu a chynnal perthnasoedd â phartneriaid allanol, cyflenwyr a noddwyr ar gyfer safleoedd presennol a darpar safleoedd.
- Gan weithio gyda’r Prif Swyddog Masnachol, byddwch yn ymgorffori’r model gweithredu masnachol newydd, gan adeiladu cerrig milltir i fesur llwyddiant a gyrru datblygiad ymhellach.
- Byddwch yn goruchwylio cyllidebau a chynllunio ariannol ac yn dadansoddi perfformiad i sicrhau proffidioldeb cynaliadwy a dyraniad adnoddau effeithiol. Byddwch hefyd yn mesur llwyddiant ac effaith mentrau masnachol ac yn darparu Enillion ar Fuddsoddiad mesuradwy i bartneriaid i annog adnewyddiadau a thwf.
- Byddwch yn datblygu a gweithredu strategaethau i dyfu incwm trwy weithgareddau masnachol e.e. gwerthu gwasanaethau a phartneriaethu corfforaethol.·Byddwch yn ymchwilio ac yn cynnal dadansoddiad o’r farchnad i adnabod cyfleoedd busnes newydd, gwerthuso dichonoldeb prosiectau newydd ac asesu eu heffaith ar weledigaeth strategol CMC.
Gall eich rôl fod yn amodol ar wiriad DBS.
Gofynion Allweddol
- Bydd gan ymgeiswyr hanes profedig mewn rôl arweinyddiaeth fasnachol, gyda phrofiad o yrru twf refeniw a rheoli partneriaethau masnachol.
- Bydd gennych sgiliau negydu effeithiol.
- Bydd gennych brofiad amlwg o ddatblygu a gweithredu strategaethau masnachol effeithiol mewn amgylchedd sy’n delio â chwsmeriaid.
- Bydd gennych brofiad cryf o ddatblygu syniadau newydd ac arloesol ar gyfer arallgyfeirio incwm.
- Bydd gennych graffter ariannol cadarn a phrofiad o reoli cyllidebau effeithiol.
Beth Sydd Ynddo i Chi?
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser.·Cynllun pensiwn sy’n uwch na’r statudol
- Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
- Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
- Aelodaeth Cymorth Feddygol sy’n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
- Rhaglenni cymorth i weithwyr sy’n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
- Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
- Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
- CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
- NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
- Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio
- Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi oriau hyblyg i gynorthwyo gydag amseroedd cychwyn a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol ac anghenion gweithredol.
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.
Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o’r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy’n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.
Organisation
